Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 11 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 10:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty, Minister for Finance and Leader of the House Jackie Nicholls, Equality Policy Manager - Disability & Age Huw Brodie, Director of Strategic Planning & Equality |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.
2. Deisebau newydd
2.1 P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.
Cytunodd y Pwyllgor i:
aros am ymateb y Gweinidog i’r llythyr gan y Cadeirydd; a
gohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl i’r galwad am dystiolaeth ddod i ben ar 18 Tachwedd.
2.2 P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Cwm Taf; Cyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf; a Sefydliad Aren Cymru i geisio eu barn am y ddeiseb hon.
2.3 P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ar 18 Tachwedd.
2.4 P-04-336 Papur Cymraeg dyddiol i Gymru
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog.
2.5 P-04-337 Tenovus: Eli haul am ddim
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru am y mater hwn; a
chyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
2.6 P-04-338 Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy
Cyhoeddodd Joyce Watson ei bod yn aelod o’r RSPB.
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am eu cyfarfod â Severn Trent Water;
ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn am fanylion cylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen a gaiff ei sefydlu i edrych ar brosesau gwerthu o’r fath.
ysgrifennu at Severn Trent Water i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd a gynhaliwyd â’r gymuned leol.
ysgrifennu at y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio ei farn am y broses o werthu a gofyn sut y mae’n bwriadu monitor materion amgylcheddol a allai godi o ganlyniad i werthu’r ystâd; ac
ysgrifennu at y Gweinidog Busnes a Menter i ofyn am ei barn am y broses o werthu a gofyn sut y mae’n bwriadu monitor materion economaidd a allai godi o ganlyniad i werthu’r ystâd.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru
Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebwr yn ei gyfarfod nesaf.
3.2 P-03-220 Gostyngwch y terfyn cyflymder ar yr A40 ger y Fenni
3.3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Cytunodd y Pwyllgor i:
aros am gasgliadau adolygiad y Gweinidog o derfynau cyflymder ar gefnffyrdd; ac
anfon ymateb y Gweinidog at y deisebwyr a rhoi gwybod iddynt y bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at eu deiseb ar ôl clywed casgliadau'r adolygiad.
3.4 P-03-205 Cadwch Farchnad Da Byw y Fenni
Cytunodd y Pwyllgor i:
ohirio’r broses o drafod y ddeiseb hon tan bod ymgynghoriad y Gweinidog ar ddiddymu darpariaethau perthnasol Deddfau Gwella’r Fenni 1854-1871 wedi dod i ben; ac
anfon yr holl dystiolaeth y bydd y Pwyllgor yn ei chael ar y ddeiseb hon at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn unol â chais gan y deisebwr.
3.5 P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd
Cytunodd y Pwyllgor i ddod yn ôl at y ddeiseb hon, yn ogystal â deiseb P-04-319, yn ei gyfarfod nesaf.
3.6 P-03-156 Dal anadl wrth gysgu
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi roi sicrwydd y bydd arian digonol yn cael ei glustnodi ar gyfer safonau gofynnol grŵp cynghori'r gwasanaethau cenedlaethol ar anadlu yn y cylch cyllideb sydd i ddod, a rhoi gwybod i’r deisebwr am y cam hwnnw; a
chau’r ddeiseb, o ystyried y lefelau o gydymffurfio a nodwyd gan y Gweinidog.
3.7 P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll
Cytunodd y Pwyllgor i:
nodi barn y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau ynghylch yr angen am olau digonol a chanllawiau’r Gweinidog i awdurdodau lleol ynghylch lleihau llygredd golau; a
chau'r ddeiseb.
3.8 P-03-305 Llyfrgelloedd Ysgol Statudol
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.9 P-03-263 Rhestru Parc y Strade
Cytunodd y Pwyllgor i baratoi adroddiad byr, gan ddod a gwahanol agweddau ar y ddeiseb ynghyd.
3.10 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr, gan gynnwys yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth er mwyn gofyn iddynt sut yr hoffent symud ymlaen.
3.11 P-03-308 Achub Theatr Gwent
3.12 P-03-311 Theatr Spectacle
3.13 P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniad adolygiad y Gweinidog o brofiadau pobl ifanc o’r theatr.
3.14 P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau
Dywedodd Joyce Watson ei bod wedi lobio i gadw Canolfan Cydgysylltu Achub ar y Môr Aberdaugleddau ar agor.
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth lafar.
3.15 P-03-262 Academi Heddwch Cymru
Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi galwad am dystiolaeth ar y mater hwn.
4. Tystiolaeth lafar ar P-03-288 Strategaeth Genedlaethol ar Fyw’n Annibynnol - Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
5.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r deisebwyr am eu hymateb i gyhoeddiad y Gweinidog ar Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol, a’u hannog i ymgysylltu â’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith hwnnw.
6. Papurau i'w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.